Tag Archives: Cymraeg

Canlyniadau Etholiadau Ewropeaidd yn y Wladwriaeth Sbaenaidd

30 May

Ces i ddim amser i ysgrifennu yn darogan sut y byddai’r pleidiau gwahanol yn gwneud (gormod o ymgyrchu!) felly dyma un yn sôn am ganlyniadau’r pleidiau hynny ac mewn rhannau o’r wladwriaeth sydd â rhyw fath o ‘gwestiwn cenedlaethol.’ Ar lefel y wladwriaeth, sypreis mawr y noson oedd cwymp difrifol y ddwy brif blaid (y PP ceidwadol, â ennillodd 16 sedd, a’r PSOE sosialaidd a ennillodd 14 – allan o 57 posib) yn ogystal â llwyddiant annisgwyl plaid adain chwith newydd o’r enw “Podemos” (‘Medrwn’ yn Gymraeg), a ennillodd 5 sedd. Amser a ddengys beth yn union bydd llwyddiant y blaid newydd hon, sy’n cael ei harwain gan Pablo Iglesias, darlithydd ifanc mewn gwleidyddiaeth sy’n ymddangos yn aml ar rhaglenni trafod teledu Sbaen.

Heb oedi ymhellach, dyma droi at y canlyniadau:

Catalwnia (Catalunya)

queterlunyeh

Cafodd Esquerra Republicana fuddugoliaeth swmpus, yn cymryd tua 23.6% o’r bleidlais i gymharu â f 21.8% Convergència i Unió. Mae ERC wedi dringo dros 14 pwynt ers 2009, pan gawsant ychydig yn llai na 10% o’r bleidlais. Cwympodd y PSC (Sosialwyr Catalwnia) o 38% o’r bleidlais yn 2009 i  ychydig mwy na na 14% yn 2014, sy’n adlewyrchu gwir greisis y blaid yng Nghatalwnia. Dyma’r tro cyntaf ers 1936 i ERC ddod ar y brig mewn unrhyw etholiadau yng Nghatalwnia. Ennillodd 629,000 o bleidleisiau trwy’r wladwriaeth gyfan a 2 sedd yn senedd Ewrop, gyda Coalició per Europa, cynghrair etholiadol Convergència, yn ennill 3 sedd diolch i help y PNV yng Ngwlad y Basg a Coalición Canaria yn yr Ynysoedd Dedwydd. Cafwyd ambell i sioc yng nghadarnleodd Convergència yn Ne a Chanol Catalwnia (Tortosa, Amposta, neu Berga er engraifft, lle ennillodd ERC yn gyfforddus) a hyd yn oed dinasoedd Terrassa, Lleida a Sabadell, cadarnleoedd hanesyddol y Sosialwyr, gyda ERC yn dod i’r brig yno (er o drwch blewyn). Gwelwn Iniciativa Catalunya Verds, y gwyrddion, yn curo’r blaid geidwadol Sbaenaidd, y PP, mewn i’r pumed safle, sy’n eithaf cweir iddyn nhw. Rhwng ERC, CiU a Iniciativa, pleidiau sy’n ffafriol i gynnal refferendwm, ceir mwyafrif o dros 55%. Pleidleisiodd tua 48% o’r boblogaeth, bron i 11 pwynt yn uwch nag yn 2009. Cododd y ganran i bleidleisio fwy yng Nghatalwnia nag unrhyw rhan arall o’r wladwriaeth.

Gwlad y Basg (Euskadi)

euskadi

Yn wahanol i Gatalwnia, dal eu tir gwnaeth y cenedlaetholwyr adain dde yng Ngwlad y Basg, y PNV, gan lwyddo i ennill yr etholiad yn y genedl fychan hon gyda 27.4% o’r bleidlais. Fodd bynnag, mae pleidlais Bildu yn hynod gryf yma (rhyw 23.3%) ac yn dangos eu gafael ar etholwyr adain chwith a chenedlaetholgar y wlad. Mae eu pleidlais yn arbennig gryf  yn Guipuzkoa (cadarnle yr iaith Fasgeg)  a rhwng sectorau o’r boblogaeth sy’n fwyaf cefnogol i annibyniaeth, fel pobl ifanc. Ychydig ddyddiau wedi’r etholiad, mae perfformiad da Bildu wedi eu sbarduno i alw ar y PNV i ddangos safbwynt mwy cefnogol i annibyniaeth i Wlad y Basg.

Navarra (Nafarroa)

Navarra

Yn ogystal â 177,000 o bleidleisiau Euskal Herria Bildu yng Ngwlad y Basg, ychwanegir rhyw 43,000 o Navarra, sef talaith hanesyddol lle mae’r diwylliant Basgaidd yn gymharol gryf (mae’n rhan o Euskal Herria, neu’r Wlad y Basg fawr). Y PP geidwadol sydd bron bob amser yn ennill yn Navarra oherwydd ei chryfder yn ne’r dalaith, ond mae canlyniad EH Bildu y tro yma, o tua 23%, yn well na’r 15% yn yr etholiadau diwethaf i senedd Navarra (a oedd fodd bynnag yn galyniad calonogol iawn iddynt).

Galisia (Galicia)

Galícia

Fel arfer, y PP lwyddodd i ennill yng Ngalisia gyda tua 35% o’r bleidlais, er bod hyn dros 15 pwynt yn is nag yn 2009, pryd aeth dros hanner o’r pleidleisiau a fwriwyd yng Ngalisia  i’r blaid geidwadol Sbaenaidd. Yn y pumed safle gyda 7.9% y ceir hyd i’r BNG, plaid draddodiadol y chwith genedlaethol yng Nghalisia, tu ôl i’r PSOE, Podemos, a AGE (Alternativa Galega de Esquerdas), cyngrhair o blaid genedlaethol adain chwith arall a oedd yn rhan o’r BNG tan 2012 a’r chwith unedig Sbaenaidd, IU. Dyma ganlyniad sâl i’r BNG – mae’n adlais o berfformiad hanesyddol o wael y blaid yn etholiadau Galisia yn 2012, lle y bu iddynt golli hanner eu seddi i AGE-IU. Diolch i bleidleisiau’r BNG, fodd bynnag, mae Cynghrair Los Pueblos Deciden, sef BNG a Bildu, wedi sicrhau sedd yn Senedd Ewrop. Bydd y sedd yn cael ei rhannu rhwg Bildu (a fydd yn dal y sedd am dair mlynedd a hanner) a’r BNG (blwyddyn a hanner).

Gwlad Falensia (País Valencià

país valencià

Cweir arall cafodd y PP yn un o’i chadarnleoedd, sef y País Valencià (Gwlad Falensia). Er iddynt ddod i’r brig, mae gwahaniaeth o 23 pwynt rhwng y 52% yr ennillodd yn 2009, sef y cwymp mwyaf i’r PP trwy’r wladwriaeth gyfan. Gwella wnaeth cenedlaetholwyr Falensia, sef Coalició Compromís, fel rhan o gyngrhair Primavera Europea, gan ystyried bod y Bloc Nacionalista Valencià (un o aelodau Compromís) wedi ennill rhyw 20,000 o bleidleisiau yma yn 2009, neu 1.3% o’r bleidlais. Gyda 8% o’r bleidlais a chyfanswm uwch o bleidleisiau nag yn etholiadau Falensia yn 2011, mae pethau’n edrych yn obeithiol i Compromís, er y bydd rhaid iddynt barhau i weithio ar dalcen caled, mewn gwlad lle y caewyd pob gorsaf deledu neu radio sy’n darlledu trwy gyfrwng y Gatalaneg gan lywodraeth lwgr y PP.

Ynysoedd Balearig  (Illes Balears)

Illes

Er nad yw hyn edrych yn debyg bod y PP wedi cael cweir yn ei holl gadarnleoedd gan ei bod yn parhau i ennill, rwy’n bod yn hollol onest yn dweud bod y PP hefyd wedi cael noson hynod wael yn yr Ynysoedd Balearig. Cwympodd sgor y PP o 14 pwynt rhwng 2009 a 2014. Dyma’r trydydd tirioegaeth lle siaredir y Gatalaneg, yn ogystal â Chatalwnia a Falensia. Penderfynodd plaid cenedlaetholgar Mallorca a Menorca, y PSM, i beidio rhedeg yn yr etholiad, gan eu bod wedi cyngrheirio a phlaid werdd yr ynysoedd, mewn grwp or enw “Més” (mwy yn Gymraeg), a nid oeddent yn medru penderfynu ar restr i gefnogi. Dyma’r PSM felly yn cefnogi ymgyrch Esquerra Republicana de Catalunya (EPDD) a ennillodd 7,3% o’r bleidlais, yn treblu y bleidlais genedlaetholgar oddi ar perfformiad 2009, pan oedd PSM, ERC, BNG a phleidiau o Wlad y Basg yn yr un rhestr. Ychydig dros 2% gafodd Primavera Europea, a gafodd gefnogaeth gwyrddion Mallorca, Menorca a Eivissa.

Am ragor o wybodaeth ynglyn â’r canlyniadau, dyma linc gan wefan El País, sef un o brif bapurau newydd Sbaen. Mae’n bosib chwilio am ganlyniadau pob tref a phentref trwy’r wladwriaeth gyfan. Am ganlyniadau Catalwnia, Falensia a’r Ynysoedd yn unig, mewn fformat braf a chyfforddus, dyma linc arall gan bapur newydd Ara.  Gellir cymharu’r canlyniadau gyda rhai 2009 ar y ddwy safle.

El País: http://resultados.elpais.com/elecciones/2014/europeas/

Ara: http://www.ara.cat/especials/eleccionseuropees/dades/totals_4_99_CM.html

Etholiadau Ewropeaidd tu hwnt i Gymru – Y Wladwriaeth Sbaenaidd (1)

12 May

Bydd etholwyr y Wladwriaeth Sbaenaidd (prin y defnyddir y gair Sbaen, neu Espanya, gan genedlaetholwyr yng Nghatalwnia), yn ogystal â rhan fwyaf helaeth poblogaeth Ewrop, yn mynd i bleidleisio dridiau yn hwyrach na’r Cymry, ar ddydd Sul y 25ain o Fai.  Fydda i’n pleidleisio fan hyn y tro hwn gan ei bod hi’n  debyg mai dyma un o’r etholiadau mwyaf pwysig yn hanes Catalwnia, ac ar ôl byw yma ers dwy flynedd a dod i deimlo fel Catalanwr (o ryw fath), mae’n fy nghyffroi i allu ychwanegu fy llais at yr alwad am annibyniaeth.

Fy ngherdyn pleidleisio.

Fy ngherdyn pleidleisio.

Rwy’ wedi penderfynu ysgrifennu blog byr (sy’n argoeli i fod yn flog hir iawn) ar y pleidiau gwahanol sy’n ymladd am rai o 57 o seddi y wladwriaeth Sbaenaidd yn Senedd Ewrop. Rhennir y Wladwriaeth Brydeinig mewn i etholaethau gwahanol (mae gan Gymru ei hetholaeth ei hun) ond un etholaeth gyfan ydy’r wladwriaeth Sbaenaidd, sydd yn ei gwneud hi’n anodd i bleidiau cenedlaetholgar o genhedloedd fel Catalunya, Gwlad València, Galisia a Gwlad y Basg i  ennill seddi. Mae ffurfio clymbleidiau er mwyn sicrhau cynrychiolaeth felly yn gyffredin. Rwy’n canolbwyntio yma ar bleidiau cenedlaetholgar a fydd yn ddraenen yn ystlys llywodraeth Rajoy ac a fydd yn medru cyflwyno neges bositif a radical bod angen democrateiddio a newid Ewrop os yw am oroesi a llewyrchu.

Dyma rhestr o’r cynghreiriau etholiadol cenedlaetholgar bydd ar gael i bleidleiswyr yn yr etholiadau yma.

Logo Y Bobloedd Sy'n Penderfynu

Os Pobos Deciden / Herriek Erabaki neu Y Pobloedd sydd i Benderfynu: Dyma glymblaid adain chwith genedlaetholgar. Mae’n cynnwys y BNG (Bloque Nacionalista Galego) o Galisia a chynghrair etholiadol o bleidiau adain chwith o Wlad y Basg, sef Bildu, sy’n   cynnwys pleidiau Eusko Alkartasuna, (EA) Aralar a phlaid mwy radical (tebyg i Sinn Féin) Sortu. Yn ystod etholiadau diwethaf Senedd Ewrop yn 2009, roedd y BNG, EA ac Aralar ar yr un rhestr a ERC ,o Gatalwnia. Ar y pryd, doedd gan Sortu (neu Herri Batasuna fel y’i gelwir ar y pryd) ddim hawl i redeg gan bod y  wladwriaeth yn eu cysylltu yn uniongyrchol â ETA. Yn ogystal a’r pleidiau a nodwyd eisioes, mae ambell i blaid radical fychan o Asturias, Aragón a’r Ynysoedd Dedwydd hefyd yn rhan o’r rhestr. Mae’r arolygon barn diweddaraf yn rhoi un sedd i’r gyngrhair hon. Yn yr etholiadau diwethaf, cawsant un sedd i rannu rhwng BNG, EA, Aralar a ERC.

ERC

L’Esquerra pel Dret a Decidir, neu mewn Cymraeg llythrennol, Y Chwith dros yr Hawl i Benderfynu (Esquerra Republicana de CatalunyaNova Esquerra Catalana a Catalunya Sí): Mae plaid traddodiadol y Chwith Gatalanaidd, sef ERC, wedi penderfynu cadw pellter oddi wrth ei chwaer-bleidiau yng Nghwlad y Basg a Galisia er mwyn rhoi pwyslais ar broses annibyniaeth Catalwnia. Mae’r arolygon barn diweddaraf yn rhoi cefnogaeth i’r blaid ar y lefel uchaf erioed, sydd hefyd wedi lliwio penderfyniad y blaid i gyflwyno rhestr Gatalanaidd yn unig.  Mae plaid fychan Nova Esquerra Catalana, sy’n cynnwys cyn-weinidog addysg Catalaunya dros y Blaid Sosialaidd (PSC-PSOE), Ernest Maragall i Mira, hefyd yn rhan o’r rhestr. Yn olaf, mae aelodau o gymdeithas sifil, gan gynnwys mudiad Catalunya Sí, hefyd wedi cael llefydd ar y rhestr, gan gynnwys ymgeisydd cyntaf y rhestr, Josep Maria Terricabras. Mae’r arolygon barn diweddaraf yn rhoi 2 sedd iddynt, cynydd “net” o ddwy sedd.

ceu

Coalició Per Europa neu Clymblaid dros Ewrop  (Convergència i Unió, Partido Nacional Vasco (EAJ-PNV), Coalición Canaria a Compromiso por Galicia: Rhestr o bleidiau nad sydd wedi newid ers yr etholiadau diwethaf yn 2009. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn bleidiau rhyddfrydol, neu geidwadol ag C fach, sydd wedi bod yn draddodiadol annelwig ar annibyniaeth. Fodd bynnag, mae llwyodraeth Convergència i Unió yng Nghatalwnia yn cefnogi’r galwad am annibyniaeth ac yn yr etholiad hon maent wedi penderfynu gwneud annibyniaeth yn Ewrop yn ganolog i’w hymgyrch. Mae’n weddol sicr bydd y gynghrair yn cadw eu 3 sedd presennol. Mae’r twf mewn cefnogaeth i opsiynau cenedlaetholgar yng Nghatalwnia a Gwlad y Basg yn fwy tebygol o gael effaith bositif ar bleidiau adain chwith sydd â gweledigaeth mwy eglur ar anibynniaeth. Fe ymunir CiU a EAJ-PNV â phlaid rhanbarthol, canol y sbectrwm, o’r Ynysoedd Dedwydd, Coalición Canaria, a phlaid fychan rhyddfrydol o Galicia, sef Compromiso. 

PRIMAVERA

Primavera Europea neu’r Gwanwyn Ewropeaidd (Coalició Compromís, Chunta Aragonesista, a EQUO): Dyma gyngrair mwyaf amrywiol fy rhestr. Mae Compromís yn gynghrair o blaid genedlaetholgar (Bloc Nacionalista Valencià) a Phlaid Werdd València (Iniciativa del Poble Valencià).   Yn yr etholiad hon, maent wedi dod i gytundeb gyda Chunta Aragonesista, prif blaid genedlaetholgar ac adain chwith Aragón, a EQUO, plaid werdd ar lefel Sbaenaidd. Mae 5 plaid fach arall hefyd yn rhan o’u hymgyrch, o bob cwr o’r wladwriaeth Sbaenaidd. Pleidiau gwerdd neu mudiadau dros gyfiawnder cymdeithasol ydy’r rhan fwyaf ohonynt.

Ac yn olaf…

Partido Andalucista (PA): Plaid genedlaetholgar o Andalucía, sydd ar hyn o bryd heb unrhyw gynrychiolaeth heblaw ar lefel leol. Maent wedi gwrthod clymbleidio gyda Coalició per Europa a Primavera Europea gan nad oeddent eisiau rhedeg ar restr lle nad oedd ganddynt obaith o ennill aelod seneddol i’w hunain. Mae’n debyg y byddant yn ennill rhyw 80,000 o bleidleisiau, ond mae’n hynod anhebygol y byddant yn ennill sedd yn Senedd Ewrop.

Yn y blog nesaf, (ddydd Gwener) byddaf yn mesur gobeithion pob cynghrair gan gymharu eu perfformiadau mewn etholiadau diweddar gyda’u canlyniadau yn etholiadau Ewropeaidd yn 2009.