Archive | December, 2012

Y Cyfrifiad

21 Dec

Sori bod hwn braidd yn hwyr – llawer o waith ‘di bod ‘da fi yn ddiweddar, ond rwy’n teimlo bod y cynnwys yn dal i fod yn hollol amserol.

Felly mae canlyniadau hir-ddisgwyliedig Cyfrifiad 2011 wedi cyrraedd. I garedigion yr iaith Gymraeg, yng Nghymru ac ar draws y byd, mae’r newyddion yn bell o fod yn hawdd i lyncu. Fodd bynnag, mae’r ffigyrau ynglyn a chenedligrwydd a hunaniaeth yn hynod o galonogol, fel y gwelwn nes ymlaen. Bydd y blog yma tipyn yn hir, ond gobeithio bydd gennych ddadl neu ddwy i ysgogi trafodaeth wedi ei ddarllen.

Beth yw sefyllfa’r iaith erbyn hyn felly?
Dengys y cyfrifiad bod 562,000 (19.1%) o bobl bellach yn medru’r Gymraeg, gostyngiad o 14,000 oddi ar y flwyddyn 2001, lle roedd 576,000 (21.4%) o bobl yn siarad yr iaith. Efallai hyd yn oed yn fwy difrifol, cwympodd y nifer sy’n dweud eu bod yn gallu siarad, darllen ac ysgrifennu’r Gymraeg o 1.7% i 431,000. Cynnydd bychan yn unig a welwyd mewn ardaloedd prin eu Cymraeg megis Caerffili, Caerdydd a Mynwy, er gwaethaf effaith bositif addysg Gymraeg, a bu dirywiad difrifol mewn ambell i ardal sy’n cael eu hystyried yn gadarnleoedd i’r iaith. Er engrhaifft, bu cwymp o dros chwech y cant yn y rhai sy’n medru’r iaith yn Sir Gâr, o 50.3% yn 2001 i ychydig dros 43% heddiw. Dim ond mewn dwy sir, Gwynedd a Môn, (65.3% a 60.1%) y mae’r canran dros 50%,  ac mae’r cymunedau Cymraeg cryfion hynny yn y de yn prysur edwnio, yn enwedig yn Nyffryn Aman, Cwm Gwendraeth a Gogledd Penfro.

Yn ogystal, dengys y ffigurau bod nifer o’r rhai hynny a oedd yn siarad   Cymraeg pan oeddent yn 10-14 wedi peidio a gallu’r iaith nawr eu bod yn y categori 20-29. Dim ond 17% o’r categori hwnnw oedd yn medru’r Gymraeg, sydd dros 2% yn llai na’r canran cenedlaethol ac yn llawer is na’r categori 10-14, sydd ymhell dros 30%.

Beth yw’r atebion?
Mae’n amlwg mai oherwydd diffyg mawr mewn cyfleodd i siarad yr iaith sy’n gyfrifol am y dirywiad radical mewn pobl ifanc yn colli’r iaith wedi gadael yr ysgol. Yn ogystal, mae canran cymharol sylweddol o bobl ifanc Cymru yn dewis astudio gradd yn Lloegr, ac felly fe’u collir yn yr ystadegau. Yn y de-ddwyrain (gwelwyd cwymp yn y nifer sy’n siarad mewn nifer o siroedd lle y gwelwyd cynnydd aruthrol y tro diwethaf) mae normaleiddio’r Gymraeg yn hollbwysig. Yn anffodus, gwelir y Gymraeg yma fel iaith ysgol yn unig, iaith nad sy’n cael ei ddefnyddio o ddydd i ddydd ac fel symbol o Gymreictod y gorffennol i nifer. Yn ogystal, credaf bod lle gan athrawon mewn ysgolion uwchradd Cymraeg i fabwysiadu agwedd mwy positif tuag at y rhai hynny sydd ddim yn defnyddio’r iaith ar yr iard ac yn y coridor – mae’n hollbwysig esbonio mai trwy siarad yr iaith yn unig y bydd eu sgiliau iaith yn gwella, ond nid y ffordd orau yw i weiddi, i geryddu ac i gosbi fel y digwyddir mewn ambell i ysgol.

Yn y ‘Fro Gymraeg’ draddodiadol, mae’n hollol eglur mai newid radical ar raddfa leol sydd angen. Fel un sydd wrth gwrs wedi cefnogi’r mesur iaith diweddar, ac fel un sydd wedi siarad yn erbyn ambell i aelod o fy Mhlaid fy hun a bleidleisiodd yn erbyn cael cofnod dwyieithog, rwy’n cydnabod mai nid deddfu a rhoi statws bydd yn achub y Gymraeg, ond gweithio’n ddiwyd ar lefel gymunedol i sicrhau ei defnydd. Ni chredaf chwaith y dylid bod ofn cael dwy gynllun ar wahan i achub yr iaith – un sy’n gweddu i realiti’r dwyrain prin ei Chymraeg a’r llall i’r cadarnleodd traddodiadol. I mi, synnwyr cyffredin yw peth felly gan fod y sialens yn y ddwy ardal yn gofyn am atebion gwahanol. Mae’r ffigurau o Geredigion a Sir Gâr yn hynod dorcalonnus, a dyma sut y buaswn i’n mynd i’r afael a’r dirywiad difrifol yn y siroedd hynny:

  1. Sicrhau bod tai fforddiadwy a cyfleodd gwaith o safon ar gael i bobl a theuluoedd ifanc yr ardaloedd hynny. Yn ogystal, boed i ni beidio a bod ofn sicrhau bod asesiad ieithyddol yn cael ei wneud ar bob datblygiad o dai newydd yng siroedd y gorllewin.
  2. Datgan trethi uchel ar dai hâf. Mae’r trethi yma wedi gweithio mewn rhannau o ardal y Llynoedd a Dartmoor yn Lloegr, ond wiw i ni siarad am y peth yng Nghymru gan bod y cwestiwn ieithyddol a hiliol yn codi. I mi, ac i’r mwyafrif helaeth o bobl sydd yn berchen ar synnwyr cyffredin, mae’n gwbl amlwg mai cwestiwn economaidd am barhad cymunedau gwledig yw hwn, a nid cwestiwn hiliol. Cyn belled ag ydw i yn y cwestiwn, mae unrhyw un sydd am integreiddio i’r gymuned y mae’n symud iddi, yn chwarae rhan bwysig ym mywyd y gymuned hynny ac yn parchu’r ffordd o fyw yn gwbl haeddianol o fyw yno.
  3. Sicrhau mae Cymraeg, a Chymraeg yn unig ydy iaith addysg yn y siroedd hynny. Mae’r ffaith bod Dyffryn Aman yn gartref i ysgolion Saesneg eu hiaith a bod plant yn un o gadarnleoedd traddodiadol y Gymraeg yn peri gofid trwm i mi. Yn ogystal, mae’r ffaith nad yw plant Cymraeg iaith gyntaf o Landeilo, na hyd yn oed o Langefni yn medru astudio pob pwnc TGAU a lefel A yn eu hysgol leol yn warth. Rhaid sicrhau bod pob plentyn yng Ngwynedd, Môn, Ceredigion, Caerfyrddin, Gogledd Penfro, Dyffryn Clwyd, Dyffryn Conwy a Sir Drefaldwyn yn hollol rhugl yn y Gymraeg ar ôl gadael yr Ysgol Uwchradd a bod cyfle iddynt astudio bob pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg. O fewn degawd, dylid sicrhau bod hyn yn digwydd ym mwyafrif siroedd Cymru.
  4. Dilyn esiampl Gwynedd a gwneud y Gymraeg yn brif iaith weinyddol Môn, Caerfyrddin a Cheredigion. Dim ond felly mae sicrhau cyfleoedd gwaith i bobl leol trwy gyfrwng y Gymraeg a normalieddio defnydd y Gymraeg fel prif iaith gwaith a bywyd bob dydd yn y gorllewin.
  5. Gosod mesurau statudol ar fusnesau preifat yn yr union siroedd hynny sy’n gwneud y Gymraeg yn iaith weledol a sy’n sicrhau cyfleoedd i bobl ddefnyddio eu hiaith eu hunain yn eu bywydau bob dydd.

Yn fy marn i, dim ond trwy ddilyn y mesurau radical hyn y gellir achub y Gymraeg fel iaith gymunedol.

Cenedligrwydd a hunaniaeth

Roedd 65.9%o’r boblogaeth yn ystyried eu hunain  yn Gymry yn ôl y canlyniadau diweddaraf yma. Diddorol oedd gweld mai’r canran oedd yn ystyried eu hunain yn Gymry fel eu hunig hunaniaeth genedlaethol oedd 57.5%, gyda’r ganran mor uchel a 73% yn Rhondda Cynon Tâf. Er bod y canlyniadau am yr iaith yn rhai digon siomedig, mae’n rhaid dweud mai calonogol ydy’r canlyniadau yma i mi fel cenedlaetholwr. Gan ystyried mai tua 25% yw canran y boblogaeth a gafodd eu geni y tu allan i Gymru, mae’n gymharol hawdd dadansoddi bod mwyafrif helaeth y rhai hynny a gafodd eu geni yma yn ystyried eu hunain yn Gymru, ac yn Gymru yn unig.

Mae hyn felly yn arwydd pellach bod potensial i’r mudiad cenedlaethol i wneud llwybrau positif mewn i gymunedau sydd yn draddodiadol heb gefnogi Plaid Cymru.  Er fy mod wedi pwysleisio pwysigrwydd gwneud popeth posib i achub yr iaith yn y cadarnleoedd, fedrwn ni ddim dechrau ar y daith i ryddid cenedlaethol heb yr 80% yn ein gwlad sydd yn methu siarad y Gymraeg. Dyliai’r canlyniadau yma felly fod yn ddigon i ddihuno cenhedlaeth newydd o genedlaetholwyr i ddifrifoldeb sefyllfa ein hiaith, ond hefyd i’w annog i weithio i gynyddu’r mwyafrif cymdeithasol Cymreig a’i hysbrydoli i fod yn ddigon hyderus i ddechrau adeiladu ein cenedl o’r newydd.

Fy mlog newydd / El meu nou blog…

11 Dec

Shwmae, dyma fy mlog newydd. Caiff y blog dwyieithog yma ei ysgrifennu yn y Gymraeg a’r Gatalaneg, er mwyn sicrhau bod y nifer mwyaf o fy ffrindiau a fy nghydfyfyrwyr yn gallu ei ddarllen a hefyd fel modd i mi wella fy Nghatalaneg . Byddaf yn sôn yn bennaf am fy niddordebau – gwleidyddiaeth, materion gwyrdd, beicio, ieithoedd lleiafrifol ac economeg amgen. Gobeithio y cewch fodd i fyw wrth ddarllen 🙂

Em

Hola, aquí teniu el meu nou blog. El blog será escrit en Gal·lès i en Català, tant per a maximitzar el numero de lectors entre els meus amics i companys d’estudi com per a intentar de millorar una mica el meu català escrit. Parlaré dels meus interessos – la política, l’ecologisme, les bicis, les llengües minoritaries i l’economía alternativa. Espero que us agradará 🙂  

Em