Canlyniadau Etholiadau Ewropeaidd yn y Wladwriaeth Sbaenaidd

30 May

Ces i ddim amser i ysgrifennu yn darogan sut y byddai’r pleidiau gwahanol yn gwneud (gormod o ymgyrchu!) felly dyma un yn sôn am ganlyniadau’r pleidiau hynny ac mewn rhannau o’r wladwriaeth sydd â rhyw fath o ‘gwestiwn cenedlaethol.’ Ar lefel y wladwriaeth, sypreis mawr y noson oedd cwymp difrifol y ddwy brif blaid (y PP ceidwadol, â ennillodd 16 sedd, a’r PSOE sosialaidd a ennillodd 14 – allan o 57 posib) yn ogystal â llwyddiant annisgwyl plaid adain chwith newydd o’r enw “Podemos” (‘Medrwn’ yn Gymraeg), a ennillodd 5 sedd. Amser a ddengys beth yn union bydd llwyddiant y blaid newydd hon, sy’n cael ei harwain gan Pablo Iglesias, darlithydd ifanc mewn gwleidyddiaeth sy’n ymddangos yn aml ar rhaglenni trafod teledu Sbaen.

Heb oedi ymhellach, dyma droi at y canlyniadau:

Catalwnia (Catalunya)

queterlunyeh

Cafodd Esquerra Republicana fuddugoliaeth swmpus, yn cymryd tua 23.6% o’r bleidlais i gymharu â f 21.8% Convergència i Unió. Mae ERC wedi dringo dros 14 pwynt ers 2009, pan gawsant ychydig yn llai na 10% o’r bleidlais. Cwympodd y PSC (Sosialwyr Catalwnia) o 38% o’r bleidlais yn 2009 i  ychydig mwy na na 14% yn 2014, sy’n adlewyrchu gwir greisis y blaid yng Nghatalwnia. Dyma’r tro cyntaf ers 1936 i ERC ddod ar y brig mewn unrhyw etholiadau yng Nghatalwnia. Ennillodd 629,000 o bleidleisiau trwy’r wladwriaeth gyfan a 2 sedd yn senedd Ewrop, gyda Coalició per Europa, cynghrair etholiadol Convergència, yn ennill 3 sedd diolch i help y PNV yng Ngwlad y Basg a Coalición Canaria yn yr Ynysoedd Dedwydd. Cafwyd ambell i sioc yng nghadarnleodd Convergència yn Ne a Chanol Catalwnia (Tortosa, Amposta, neu Berga er engraifft, lle ennillodd ERC yn gyfforddus) a hyd yn oed dinasoedd Terrassa, Lleida a Sabadell, cadarnleoedd hanesyddol y Sosialwyr, gyda ERC yn dod i’r brig yno (er o drwch blewyn). Gwelwn Iniciativa Catalunya Verds, y gwyrddion, yn curo’r blaid geidwadol Sbaenaidd, y PP, mewn i’r pumed safle, sy’n eithaf cweir iddyn nhw. Rhwng ERC, CiU a Iniciativa, pleidiau sy’n ffafriol i gynnal refferendwm, ceir mwyafrif o dros 55%. Pleidleisiodd tua 48% o’r boblogaeth, bron i 11 pwynt yn uwch nag yn 2009. Cododd y ganran i bleidleisio fwy yng Nghatalwnia nag unrhyw rhan arall o’r wladwriaeth.

Gwlad y Basg (Euskadi)

euskadi

Yn wahanol i Gatalwnia, dal eu tir gwnaeth y cenedlaetholwyr adain dde yng Ngwlad y Basg, y PNV, gan lwyddo i ennill yr etholiad yn y genedl fychan hon gyda 27.4% o’r bleidlais. Fodd bynnag, mae pleidlais Bildu yn hynod gryf yma (rhyw 23.3%) ac yn dangos eu gafael ar etholwyr adain chwith a chenedlaetholgar y wlad. Mae eu pleidlais yn arbennig gryf  yn Guipuzkoa (cadarnle yr iaith Fasgeg)  a rhwng sectorau o’r boblogaeth sy’n fwyaf cefnogol i annibyniaeth, fel pobl ifanc. Ychydig ddyddiau wedi’r etholiad, mae perfformiad da Bildu wedi eu sbarduno i alw ar y PNV i ddangos safbwynt mwy cefnogol i annibyniaeth i Wlad y Basg.

Navarra (Nafarroa)

Navarra

Yn ogystal â 177,000 o bleidleisiau Euskal Herria Bildu yng Ngwlad y Basg, ychwanegir rhyw 43,000 o Navarra, sef talaith hanesyddol lle mae’r diwylliant Basgaidd yn gymharol gryf (mae’n rhan o Euskal Herria, neu’r Wlad y Basg fawr). Y PP geidwadol sydd bron bob amser yn ennill yn Navarra oherwydd ei chryfder yn ne’r dalaith, ond mae canlyniad EH Bildu y tro yma, o tua 23%, yn well na’r 15% yn yr etholiadau diwethaf i senedd Navarra (a oedd fodd bynnag yn galyniad calonogol iawn iddynt).

Galisia (Galicia)

Galícia

Fel arfer, y PP lwyddodd i ennill yng Ngalisia gyda tua 35% o’r bleidlais, er bod hyn dros 15 pwynt yn is nag yn 2009, pryd aeth dros hanner o’r pleidleisiau a fwriwyd yng Ngalisia  i’r blaid geidwadol Sbaenaidd. Yn y pumed safle gyda 7.9% y ceir hyd i’r BNG, plaid draddodiadol y chwith genedlaethol yng Nghalisia, tu ôl i’r PSOE, Podemos, a AGE (Alternativa Galega de Esquerdas), cyngrhair o blaid genedlaethol adain chwith arall a oedd yn rhan o’r BNG tan 2012 a’r chwith unedig Sbaenaidd, IU. Dyma ganlyniad sâl i’r BNG – mae’n adlais o berfformiad hanesyddol o wael y blaid yn etholiadau Galisia yn 2012, lle y bu iddynt golli hanner eu seddi i AGE-IU. Diolch i bleidleisiau’r BNG, fodd bynnag, mae Cynghrair Los Pueblos Deciden, sef BNG a Bildu, wedi sicrhau sedd yn Senedd Ewrop. Bydd y sedd yn cael ei rhannu rhwg Bildu (a fydd yn dal y sedd am dair mlynedd a hanner) a’r BNG (blwyddyn a hanner).

Gwlad Falensia (País Valencià

país valencià

Cweir arall cafodd y PP yn un o’i chadarnleoedd, sef y País Valencià (Gwlad Falensia). Er iddynt ddod i’r brig, mae gwahaniaeth o 23 pwynt rhwng y 52% yr ennillodd yn 2009, sef y cwymp mwyaf i’r PP trwy’r wladwriaeth gyfan. Gwella wnaeth cenedlaetholwyr Falensia, sef Coalició Compromís, fel rhan o gyngrhair Primavera Europea, gan ystyried bod y Bloc Nacionalista Valencià (un o aelodau Compromís) wedi ennill rhyw 20,000 o bleidleisiau yma yn 2009, neu 1.3% o’r bleidlais. Gyda 8% o’r bleidlais a chyfanswm uwch o bleidleisiau nag yn etholiadau Falensia yn 2011, mae pethau’n edrych yn obeithiol i Compromís, er y bydd rhaid iddynt barhau i weithio ar dalcen caled, mewn gwlad lle y caewyd pob gorsaf deledu neu radio sy’n darlledu trwy gyfrwng y Gatalaneg gan lywodraeth lwgr y PP.

Ynysoedd Balearig  (Illes Balears)

Illes

Er nad yw hyn edrych yn debyg bod y PP wedi cael cweir yn ei holl gadarnleoedd gan ei bod yn parhau i ennill, rwy’n bod yn hollol onest yn dweud bod y PP hefyd wedi cael noson hynod wael yn yr Ynysoedd Balearig. Cwympodd sgor y PP o 14 pwynt rhwng 2009 a 2014. Dyma’r trydydd tirioegaeth lle siaredir y Gatalaneg, yn ogystal â Chatalwnia a Falensia. Penderfynodd plaid cenedlaetholgar Mallorca a Menorca, y PSM, i beidio rhedeg yn yr etholiad, gan eu bod wedi cyngrheirio a phlaid werdd yr ynysoedd, mewn grwp or enw “Més” (mwy yn Gymraeg), a nid oeddent yn medru penderfynu ar restr i gefnogi. Dyma’r PSM felly yn cefnogi ymgyrch Esquerra Republicana de Catalunya (EPDD) a ennillodd 7,3% o’r bleidlais, yn treblu y bleidlais genedlaetholgar oddi ar perfformiad 2009, pan oedd PSM, ERC, BNG a phleidiau o Wlad y Basg yn yr un rhestr. Ychydig dros 2% gafodd Primavera Europea, a gafodd gefnogaeth gwyrddion Mallorca, Menorca a Eivissa.

Am ragor o wybodaeth ynglyn â’r canlyniadau, dyma linc gan wefan El País, sef un o brif bapurau newydd Sbaen. Mae’n bosib chwilio am ganlyniadau pob tref a phentref trwy’r wladwriaeth gyfan. Am ganlyniadau Catalwnia, Falensia a’r Ynysoedd yn unig, mewn fformat braf a chyfforddus, dyma linc arall gan bapur newydd Ara.  Gellir cymharu’r canlyniadau gyda rhai 2009 ar y ddwy safle.

El País: http://resultados.elpais.com/elecciones/2014/europeas/

Ara: http://www.ara.cat/especials/eleccionseuropees/dades/totals_4_99_CM.html

Advertisements

Etholiadau Ewropeaidd tu hwnt i Gymru – Y Wladwriaeth Sbaenaidd (1)

12 May

Bydd etholwyr y Wladwriaeth Sbaenaidd (prin y defnyddir y gair Sbaen, neu Espanya, gan genedlaetholwyr yng Nghatalwnia), yn ogystal â rhan fwyaf helaeth poblogaeth Ewrop, yn mynd i bleidleisio dridiau yn hwyrach na’r Cymry, ar ddydd Sul y 25ain o Fai.  Fydda i’n pleidleisio fan hyn y tro hwn gan ei bod hi’n  debyg mai dyma un o’r etholiadau mwyaf pwysig yn hanes Catalwnia, ac ar ôl byw yma ers dwy flynedd a dod i deimlo fel Catalanwr (o ryw fath), mae’n fy nghyffroi i allu ychwanegu fy llais at yr alwad am annibyniaeth.

Fy ngherdyn pleidleisio.

Fy ngherdyn pleidleisio.

Rwy’ wedi penderfynu ysgrifennu blog byr (sy’n argoeli i fod yn flog hir iawn) ar y pleidiau gwahanol sy’n ymladd am rai o 57 o seddi y wladwriaeth Sbaenaidd yn Senedd Ewrop. Rhennir y Wladwriaeth Brydeinig mewn i etholaethau gwahanol (mae gan Gymru ei hetholaeth ei hun) ond un etholaeth gyfan ydy’r wladwriaeth Sbaenaidd, sydd yn ei gwneud hi’n anodd i bleidiau cenedlaetholgar o genhedloedd fel Catalunya, Gwlad València, Galisia a Gwlad y Basg i  ennill seddi. Mae ffurfio clymbleidiau er mwyn sicrhau cynrychiolaeth felly yn gyffredin. Rwy’n canolbwyntio yma ar bleidiau cenedlaetholgar a fydd yn ddraenen yn ystlys llywodraeth Rajoy ac a fydd yn medru cyflwyno neges bositif a radical bod angen democrateiddio a newid Ewrop os yw am oroesi a llewyrchu.

Dyma rhestr o’r cynghreiriau etholiadol cenedlaetholgar bydd ar gael i bleidleiswyr yn yr etholiadau yma.

Logo Y Bobloedd Sy'n Penderfynu

Os Pobos Deciden / Herriek Erabaki neu Y Pobloedd sydd i Benderfynu: Dyma glymblaid adain chwith genedlaetholgar. Mae’n cynnwys y BNG (Bloque Nacionalista Galego) o Galisia a chynghrair etholiadol o bleidiau adain chwith o Wlad y Basg, sef Bildu, sy’n   cynnwys pleidiau Eusko Alkartasuna, (EA) Aralar a phlaid mwy radical (tebyg i Sinn Féin) Sortu. Yn ystod etholiadau diwethaf Senedd Ewrop yn 2009, roedd y BNG, EA ac Aralar ar yr un rhestr a ERC ,o Gatalwnia. Ar y pryd, doedd gan Sortu (neu Herri Batasuna fel y’i gelwir ar y pryd) ddim hawl i redeg gan bod y  wladwriaeth yn eu cysylltu yn uniongyrchol â ETA. Yn ogystal a’r pleidiau a nodwyd eisioes, mae ambell i blaid radical fychan o Asturias, Aragón a’r Ynysoedd Dedwydd hefyd yn rhan o’r rhestr. Mae’r arolygon barn diweddaraf yn rhoi un sedd i’r gyngrhair hon. Yn yr etholiadau diwethaf, cawsant un sedd i rannu rhwng BNG, EA, Aralar a ERC.

ERC

L’Esquerra pel Dret a Decidir, neu mewn Cymraeg llythrennol, Y Chwith dros yr Hawl i Benderfynu (Esquerra Republicana de CatalunyaNova Esquerra Catalana a Catalunya Sí): Mae plaid traddodiadol y Chwith Gatalanaidd, sef ERC, wedi penderfynu cadw pellter oddi wrth ei chwaer-bleidiau yng Nghwlad y Basg a Galisia er mwyn rhoi pwyslais ar broses annibyniaeth Catalwnia. Mae’r arolygon barn diweddaraf yn rhoi cefnogaeth i’r blaid ar y lefel uchaf erioed, sydd hefyd wedi lliwio penderfyniad y blaid i gyflwyno rhestr Gatalanaidd yn unig.  Mae plaid fychan Nova Esquerra Catalana, sy’n cynnwys cyn-weinidog addysg Catalaunya dros y Blaid Sosialaidd (PSC-PSOE), Ernest Maragall i Mira, hefyd yn rhan o’r rhestr. Yn olaf, mae aelodau o gymdeithas sifil, gan gynnwys mudiad Catalunya Sí, hefyd wedi cael llefydd ar y rhestr, gan gynnwys ymgeisydd cyntaf y rhestr, Josep Maria Terricabras. Mae’r arolygon barn diweddaraf yn rhoi 2 sedd iddynt, cynydd “net” o ddwy sedd.

ceu

Coalició Per Europa neu Clymblaid dros Ewrop  (Convergència i Unió, Partido Nacional Vasco (EAJ-PNV), Coalición Canaria a Compromiso por Galicia: Rhestr o bleidiau nad sydd wedi newid ers yr etholiadau diwethaf yn 2009. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn bleidiau rhyddfrydol, neu geidwadol ag C fach, sydd wedi bod yn draddodiadol annelwig ar annibyniaeth. Fodd bynnag, mae llwyodraeth Convergència i Unió yng Nghatalwnia yn cefnogi’r galwad am annibyniaeth ac yn yr etholiad hon maent wedi penderfynu gwneud annibyniaeth yn Ewrop yn ganolog i’w hymgyrch. Mae’n weddol sicr bydd y gynghrair yn cadw eu 3 sedd presennol. Mae’r twf mewn cefnogaeth i opsiynau cenedlaetholgar yng Nghatalwnia a Gwlad y Basg yn fwy tebygol o gael effaith bositif ar bleidiau adain chwith sydd â gweledigaeth mwy eglur ar anibynniaeth. Fe ymunir CiU a EAJ-PNV â phlaid rhanbarthol, canol y sbectrwm, o’r Ynysoedd Dedwydd, Coalición Canaria, a phlaid fychan rhyddfrydol o Galicia, sef Compromiso. 

PRIMAVERA

Primavera Europea neu’r Gwanwyn Ewropeaidd (Coalició Compromís, Chunta Aragonesista, a EQUO): Dyma gyngrair mwyaf amrywiol fy rhestr. Mae Compromís yn gynghrair o blaid genedlaetholgar (Bloc Nacionalista Valencià) a Phlaid Werdd València (Iniciativa del Poble Valencià).   Yn yr etholiad hon, maent wedi dod i gytundeb gyda Chunta Aragonesista, prif blaid genedlaetholgar ac adain chwith Aragón, a EQUO, plaid werdd ar lefel Sbaenaidd. Mae 5 plaid fach arall hefyd yn rhan o’u hymgyrch, o bob cwr o’r wladwriaeth Sbaenaidd. Pleidiau gwerdd neu mudiadau dros gyfiawnder cymdeithasol ydy’r rhan fwyaf ohonynt.

Ac yn olaf…

Partido Andalucista (PA): Plaid genedlaetholgar o Andalucía, sydd ar hyn o bryd heb unrhyw gynrychiolaeth heblaw ar lefel leol. Maent wedi gwrthod clymbleidio gyda Coalició per Europa a Primavera Europea gan nad oeddent eisiau rhedeg ar restr lle nad oedd ganddynt obaith o ennill aelod seneddol i’w hunain. Mae’n debyg y byddant yn ennill rhyw 80,000 o bleidleisiau, ond mae’n hynod anhebygol y byddant yn ennill sedd yn Senedd Ewrop.

Yn y blog nesaf, (ddydd Gwener) byddaf yn mesur gobeithion pob cynghrair gan gymharu eu perfformiadau mewn etholiadau diweddar gyda’u canlyniadau yn etholiadau Ewropeaidd yn 2009.

Diwrnod San Siôr – neu la Diada de Sant Jordi

23 Apr

Efallai byddai rhai ohonoch yn adnabod Diwrnod San Siôr fel dydd gwyl nawddsant Lloegr. Ond dim yn Lloegr yn unig y nodir yr achlysur hwn. Yng Nghatalwnia, arddelir y traddodiad mewn modd lliwgar, traddodiadol a diddorol. Prin y gellir dweud y dethlir diwrnod cenedlaethol y Saeson, gyda dathliadau fel y Jiwbilî ac ‘Armed Forces Day’, mewn ffug-wisg o Brydeindod rhemp, yn cymryd  lle diwrnod eu nawddsant. Fodd bynnag, rwy’ bob amser wedi bod o’r farn bod cenhedloedd bychain di-dalaith yn dathlu gwyliau cenedlaethol gyda mwy o angerdd, a dyw diwrnod Sant Jordi yng Nghatalwnia ddim yn eithriad.

Yng Nghatalwnia, mae diwrnod San Siôr, neu “la Diada de Sant Jordi’, yn un o brif wyliau’r wlad, ac yn gyfuniad braf o ddiwylliant, cariad a chenedlaetholdeb. Er nad yw cyn bwysiced i´r achos genedlaethol â’r 11eg o Fedi, sy’n nodi’r diwrnod y cwympodd Barcelona i luoedd y Borboniaid yn 1714, nodir Sant Jordi fel diwrnod y cariadon yng Nghatalwnia. Yn draddodiadol, fe rhoddir rhosyn i’r ferch oddi wrth y bachgen a llyfr i’r bachgen oddi wrth y ferch, ond yn y blynyddoedd diwethaf mae’r elfen (braidd yn rhywiaethol) hyn wedi newid cryn dipyn, gyda phawb yn mwynhau derbyn llyfr.  Yn yr wythnos neu ddwy yn rhedeg i fyny at ddiwrnod Sant Jordi, trafodir y llyfrau diweddaraf ar y silffoedd yn frwd, gyda nifer yn ysu cael gwybod pa lyfr  werthodd orau ar y diwrnod. Yn ddiweddar, mae llyfrau ynglyn ag annibyniaeth, yr economi a nofelau hanesyddol wedi cyrraedd y brig, o ystyried y broses wleidyddol ddiddorol yng Nghatalwnia ar hyn o bryd.

Y peth mwyaf hyfryd ynglyn â’r diwrnod yw rôl cymdeithas sifil mewn creu awyrgylch bryferth, gyda chlybiau ieuenctid, scowtiaid, pleidiau gwleidyddol, timoedd chwaraeon a hyd yn oed cylchoedd gweu yn dodi stondin yn y stryd a gwerthu rhosod a llyfrau ail lawd i godi arian dros eu hachos. (Rwy’n ysgrifennu’r blogiad hwn braidd yn hwyr gan fy mod wedi bod yn gwerthu rhosod a llyfrau gyda changen ieuenctid Esquerra Republicana yn ystod y prynhawn!). Afraid dweud mai dyma un o fy hoff ddiwrnodau – ac yn wers i ni yng Nghymru am bwysigrwydd cadw traddodiadau ac arddel cymdeithas sifil gref.

Feliç Diada de Sant Jordi!

Llun: Avui toca omplir els carrers de roses i llibres, el #9N2014 toca omplir les urnes de vots per la llibertat #SíSí #guanyarem Avui estem a Ronda del Guinardó 32 i al c/tajo amb passeig Maragall, t'hi esperem! #FeliçSantJordi #SantJordi2014
Poster gan Esquerra Republicana i ddathlu Sant Jordi ac i alw am annibyniaeth.

 

La Diada de Santes Dwynwen

24 Jan

És cert dir que Catalunya és un país que ha guardat les seves festes i tradicions populars. Però després de nombroses Reformacions Protestants entre els Segles 18 i 20, amb cada vegada més èmfasi en portar una vida austera, molts aspectes de la cultura popular gal·lesa van sufrir. Les tradicions, sovint d’arrel pagana, es consideraven massa ‘boniques’, contaminant la ment amb tonteries i pensaments impurs. Últimament, però, algunes de les velles festes populars s’estan posant de moda una altra vegada. Una d’aquestes festes és la de Santes Dwynwen (Santa Dwynwen), la diada de l’amor a Gal·les, que té lloc el dia 25 de gener de cada any.

La història de la Santa és una d’amor, força trista com totes les històries d’aquest tipus. La Dwynwen era una princesa d’un dels regnes del sud de Gal·les, i es va enamorar del Maelon Dafodrill, un noi que no tenia sang noble. Tot i això, Dwynwen estava promesa a un membre de la noblesa. Quan el Rei, el pare de la Dwynwen, va averiguar que ella estava enamorada del Maelon, es va enfadar, i la Dwynwen va fugir del castell amb el cor trencat. Ella va suplicar a Déu que fes que  s’oblidés d’en Maelon, i Déu li va convertir en un tros de gel. No cal dir que la Dwynwen, al veure el seu amant tot gelat, es va posar encara més trist, i mentre dormia aquella nit, va somnir amb un àngel que li va donar tres desitjos. El primer era que es descongelés en Maelon. El segon, que en Maelon s’oblidés de la Dwynwen, i que el seu pare, el rei, no li fes cap mal a ell. El tercer era que es fes monja, convertint-se en la Santa de la gent que s’estima a Gal·les i que es troba en una situació de dificultat.

Avui en dia, es celebra la Diada de Santes Dwynwen cada vegada més a Gal·les; a l’escola els nens i les nenes escolten la història i fan targetes originals (normalment destinades a un amic o amiga, o al seu pare o a la seva mare). També es pot regalar una cullera de fusta, un regal habitual entre amants a Gal·les, o sortir per gaudir d’un sopar íntim. Espero que un dia la tradició arribi a superar en popularitat al dia de Sant Valentí, per una vegada! Dydd Santes Dwynwen Hapus i chi gyd!

                                   La Illa de Llanddwyn, on hi ha una església petita per la Santa Dwynwen.

Carwyn Jones, presidint la decadència (2) i el White Paper de l’SNP

6 Dec

No vull que aquest bloc sembli una crítica constant del líder del Partit Laborista Gal·les, però últimament en Carwyn Jones, com el seu homòleg català el pobre Pere Navarro, sembla ficar-se en situacions estranyes on no es veu clarament quina és la seva intenció ni el seu raonament. La setmana passada, just abans de la  publicació del White Paper, en Carwyn Jones va anar a Escòcia per pronunciar una serie de discursos, posant-se clarament a la disposició de la campanya del ‘No’ a la independència. El que és encara més estrany és que el Jones ha proclamat que en el cas de la independència d’escòcia, ell vetaria l’entrada del país a una ‘zona sterling’, que és la intenció del partit nacionalista el SNP si governessin després de la independència.

Primer de tot,  l’assemblea de Gal·les no té competències fiscals, i com vaig constatar a l’últim bloc, els laboristes no semblen voler  acceptar les competències més importants ofertes pel govern britànic, com la competència de variar la taxa d’IRPF.  Ja que el Primer Ministre Gal·lès encara no té competències sobre la seva pròpia economia, és gairebé divertit pensar que Gal·les tindria una veu si aquesta situació es repliqués, i menys encara un veto sobre la entrada d’Ecòcia a una hipotètica “zona sterling”. Aquí teniu un  video on el Primer Ministre explica la seva posició en un programa d’anàlisi polític de la BBC d’escòcia: http://www.bbc.co.uk/news/uk-scotland-scotland-politics-25034379

És més, la setmana passada el govern escocès va publicar el “White Paper”,  un programa detallat de més de 600 pàgines sobre un hípotetic estat escocès. Posa èmfasi en els canvis socials que es produirien si escòcia esdevingués independent, però el discurs també conté un fort element de continuació – es guardaria la monarquia britànica, la BBC seria disponsible (com a Irlanda,cal afeigir)  i formaria part de la hipotètica zona sterling, coses impensables i impossibles per una hipotètica independència catalana. També afegeix que la pertenença a les institucions internacionals (OTAN, UE, ONU) seria assegurada. Tot i això, el No encara lidera a les dues ultimes enquestes. La última suggereix que només un 27% votaria que sí, que el no se situa a un massiu 56% i que el 15% no ho sap. La de fa dues setmanes suggereix que la diferència és menor; un 38% pel Sí, 47% pel No i un 17% de No Sap / No Contesta. Queda força feina per l’SNP i per la campanya de la societat civil perquè es vegi una victoria de l’independentisme d’aqui vuit mesos.

P.S: No puc publicar res sense mencionar la mort del gran Madiba. Us deixo amb una part de la comunicat dels Joves de l’Alliança Lliure Europea d’aquest matí:
” EFAy laments the passing of Nelson Mandela, who fought against a corrupt apartheid system where diversity, tolerance and respect for the rights of peoples were cruelly repressed. Our tribute to him is to campaign daily in favour of social justice, diversity and for the liberation of peoples. Rest in peace, Madiba!”

Quote

‘La democràcia …

5 Nov

‘La democràcia no s’aprèn al Parlament, sinó a casa. Ser demòcrata no és una actitud política, és una actitud davant la vida.’

“Ni ddysgir democratiaeth yn y Senedd, ond yn y cartref. Dydy bod yn ddemocrat ddim yn agwedd wleidyddol; mae’n agwedd sy’n llunio bywyd rhywun.’

Montserrat Roig

Carwyn Jones, presidint la decadència

4 Nov

A primera vista, sembla bona notícia la transferència de competències fiscals al Govern de Gal·les. Una comissió establerta pel govern de coalició entre els Laboristes i els soberanistes gal·lesos, Plaid Cymru entre 2007-2011 va recomanar la devolució extensa de competències fiscals a Gal·les, inicialment rebutjada pel Govern de l’Estat. El divendres passat, però, el Primer Ministre britànic va anunciar la devolució d’algunes de les competències recomenades per la dita commissió, com la capacitat d’endeutar-se, la capacitat de variar la taxa de IRPF, i altres impostos com el de la compra de terrenys i cases i l’impost sobre el tractament del rebuig. La competència sobre alguns altres impostos recomenats per la comissió no s’atorgaran, però.

https://i0.wp.com/news.bbcimg.co.uk/media/images/70851000/jpg/_70851207_019832199-1.jpg                                              En David Cameron i en Nick Clegg, a punt de contestar les preguntes de la prensa.

Ara bé, tot això sembla una bona notícia per un país on el pes del sector public a l’economia envolta el 60% del PIB, i on algunes regions pateixen una taxa d’atur juvenil semblant a l’espanyola. La devolució de l’IRPF ( Income tax / Treth Incwm) es considera un eine clau en el desenvolupament de l’economia gal·lesa, però sembla que el Primer Ministre del Govern gal·lès no té ganes de mullar-se per ara i prefereix continuar de presidir sobre més d’una decada de decadència de l’economia gal·lesa. En Carwyn Jones, el Primer Ministre de la nació, ha declarat que continuarà fer campanya per reclamar un pacte fiscal millor per Gal·les sota la Fòrmula Barnett, que calcula quants diners s’atorguen a les nacions amb govern propi. Segons Jones, (gràcies a les calcules del Plaid Cymru que ja fa anys que fa campanya per aquesta reforma) Gal·les rep menys diners que n’hauria, uns €354 millions a l’any, i prefereix continuar a pressionar el govern estatal per aquesta reforma abans de rebre més competències, que al seu parer, serien “perjudicial per l’economia sense el nivell correcte de financament”. El Senyor Jones oblida que el seu partit estava al govern a nivell estatal durant 13 anys, però mai va proposar cap reforma del sistema Barnett. Aquesta situació em sona molt al PSOE, que ara reclama l’exumhació de Franco del Valle de los Caídos  després d’estar 8 anys al govern espanyol!

https://i0.wp.com/img01.lavanguardia.com/2013/03/01/El-president-de-la-Generalitat_54367885287_53389389549_600_396.jpg

En Carwyn Jones amb en Artur Mas al mes de març d’aquest any

S’espera que es farà un referendum sobre aquestes competències al 2015, sempre que el Govern de Gal·les ho demana. Això, tant com la reforma del sistema Barnett, sembla poc probable. Per saber-ne més, aqui teniu un video (en anglès) del BBC , on el Carwyn Jones explica (amb poc èxit) perquè no vol aquestes competències.

http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-politics-24778791